Hanes
Sefydlwyd Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn 1994 gan yr Athro Tim Claypole MBE a’r Athro David Gethin a oedd yn ddarlithwyr yn yr ‘Adran Beirianneg Fecanyddol’ fel yr oedd a ddaeth i Brifysgol Abertawe o ddiwydiant.
Yn y 1990au cynnar gofynnodd argraffydd cylchgronau mawr o Ddwyrain Lloegr iddynt gymryd rhan mewn ymchwiliad i faterion ansawdd cylchol. Arweiniodd hyn at brosiect mawr a’r canlyniad oedd datrysiad llwyddiannus ar gyfer y cwmni. Sylweddolodd Tim a David y cyfnod hwnnw fod yr adran yn cynnwys gwybodaeth arbenigol i gefnogi’r diwydiant argraffu.
I wneud y diwydiant yn ymwybodol o alluoedd yr adran ym Mhrifysgol Abertawe crëwyd grŵp ymchwil penodol o’r enw ‘Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru’. Amcan gwreiddiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru oedd darparu prosiectau ymchwil i ôl-raddedigion y byddant hefyd o fudd i’r diwydiant argraffu.
Arobryn
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae WCPC wedi bod yn rhan o ystod o brosiectau llwyddiannus a ariannwyd gan TSB, FP7, EPSRC, Llywodraeth Cymru a chwmnïau a derbyniodd rhai ohonynt gydnabyddiaeth gan y gwobrau canlynol:
- 2008 Gwobr Michael Bruno gan Technical Association of the Graphic Arts
- 2009 gwobr arbennig ar gyfer cyfraniad neilltuol i faes argraffu fflecsograffeg gan
Gymdeithas Dechnegol Fflecsograffeg Ewrop
- Yn 2010 dyfarnwyd MBE i’r Athro Tim Claypole am wasanaethau i’r ymchwil argraffu yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd
WCPC
- Yn 2009 enillodd y prosiect DIPLE wobr fawr “Regio Stars” Ewropeaidd ar gyfer y prosiect gorau yn y categori Ymchwil, Datblygiad Technegol ac Arloesedd.