Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Am WCPC

Lleolir Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, De Cymru, ar Gampws y Bae y Brifysgol sydd ar safle 65 erw ysblennydd ym Mae Abertawe.

Mae’r Ganolfan yn un o ganolfannau mwyaf blaenllaw’r byd ym maes ymchwil a datblygu prosesau argraffu a chaenu; mae ganddi arbenigedd mewn prosesau argraffu sgrîn fflecsograffig, lithograffig, roto-engrafiad, argraffu pad ac argraffu 3D.Yn ogystal, mae’n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes modelu’r broses argraffu, gan ddefnyddio technegau megis elfen feidraidd, gwahaniaeth meidraidd a rhwydweithiau ystadegol a niwral.

Ym maes electroneg argraffedig, cydnabyddir y Ganolfan fel un o bump yn unig o ganolfannau rhagoriaeth electroneg blastig yn y DU gyfan, a chanddi wybodaeth a chyfleusterau unigryw ar gyfer prosesu atodol drwy argraffu.

Mae’r Ganolfan yn cydweithio â chwmnïau, sefydliadau academaidd eraill, sefydliadau ymchwil masnachol a sefydliadau nid er elw, ac mae wedi ymgymryd â channoedd o brosiectau cydweithredol. Mae’r rhan fwyaf o’r partneriaethau cydweithredol hyn wedi bod â busnesau bach a chanolig, a chânt eu cefnogi drwy gyllid cyhoeddus a phreifat, gyda llawer o fusnesau bach a chanolig yn datblygu perthnasoedd gweithio hirdymor â’r Ganolfan gan gydweithio ar nifer o brosiectau.